Leonardos Guest House

Gwesty Bach yn edrych dros Fae Abertawe ac yn agos at ganol y ddinas

Gwesty Bach yw Leonardo’s sy’n cael ei redeg gan deulu ac mae’n cynnig llety gwely a brecwast o safon uchel. Mae ein gwesty mewn lleoliad perffaith i gyrraedd canol dinas Abertawe a’r ardaloedd o’i chwmpas. Rydym ar lan traeth tair milltir Abertawe, sy’n ymestyn tuag at brydferthwch y Mwmbwls.


Mae gan Tina a Leonardo brofiad helaeth o weithio yn y diwydiant lletygarwch ac maent wedi gweithio mewn nifer o wahanol fusnesau masnachol. Croeso mawr i chi drwy gydol eich arhosiad, yn fyr neu’n hir. Mae gennym agwedd gyfeillgar ac anffurfiol ond yn cynnig gwasanaeth proffesiynol.

Yn Leonardo’s, rydym yn croesawu cyplau, teuluoedd a theithwyr busnes neu hamdden.

Mae cyrraedd y Gwesty Bach yn hawdd gan ein bod yn agos at yr M4 ac mae nifer o wasanaethau cludiant cyhoeddus yn yr ardal gan gynnwys Trenau Great Western a gorsaf fws First Cymru. Rydym hefyd yn agos at Faes Awyr Rhyngwladol Abertawe sy’n cysylltu teithiau dros y DU.

 

Coffee at Leoanardo's Bed and BreakfastMae gennym naw ystafell wely a phump ohonynt yn edrych dros y môr. Mae brecwast mewn ystafell fwyta gyda thema ganoldirol ac fe geir dewis o frecwast traddodiadol neu gyfandirol.

Gallwch helpu eich hunan i ffrwythau ffres, grawnfwyd, iogwrt a sudd ffrwythau. Hefyd, bydd espresso, cafféllatte ac wrth gwrs te a choffi cyffredin ar gael.

In Italian | In English

The front of Leonardo's Guest HouseOne of the rooms at our B & BSwansea Beach